Eglwys y Santes Fair a Beuno Sant yn Chwitffordd | |
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,244 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3°N 3.3°W |
Cod SYG | W04000211 |
Cod OS | SJ142782 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au y DU | Becky Gittins (Llafur) |
Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir y Fflint, Cymru, yw Chwitffordd[1][2] ( ynganiad ) (Saesneg: Whitford). Mae'n gorwedd tua 4 milltir i'r gorllewin o Dreffynnon a 2 filltir i'r de o Fostyn.
Daw'r enw Cymraeg o'r enw Saesneg Whitford (naill ai "Rhyd Lydan" neu "Rhyd Wen"). Cofnodir y ffurf Widford yn Llyfr Dydd y Farn (1086)[3] ac ymddengys fod y pentref wedi ei sefydlu gan yr Eingl-Sacsoniaid pan fu'r rhan yma o Gymru ym meddiant teyrnas Mersia. Ond adenillwyd y tir gan y Cymry a chafwyd y Cymreigiad Chwitffordd. Cofnodir yr enghraifft gynharaf o'r ffurf Gymraeg mewn dogfen sy'n dyddio i 1284.[4]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Becky Gittins (Llafur).[5][6]