Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 487, 436 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 7,442.35 ha |
Cyfesurynnau | 52.045°N 3.82°W |
Cod SYG | W04000497 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ann Davies (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Cil-y-cwm[1] (hefyd: Cilycwm). Saif ar Afon Gwenlais, ychydig i'r gogledd o'r fan lle mae'n ymuno ag Afon Tywi ac i'r gogledd o dref Llanymddyfri. Mae'r eglwys, sydd wedi ei chysegru i Sant Mihangel, yn dyddio o'r 15g, a cheir murluniau diddorol ynddi. Ceir ywen enfawr yn y fynwent.
Mae'r gymuned yn cynnwys rhan o fynyddoedd Elenydd; y pwynt uchaf yw Mynydd Mallaen (448m). Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 472.
Cynrychiolir Cil-y-cwm yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ann Davies (Plaid Cymru).[2][3]