Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.4356°N 4.0794°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref bychan yng nghymuned Tirymynach, Ceredigion, yw Clarach (hefyd: Clarach Bay weithiau yn Saesneg). Fe'i lleolir ar lan Bae Ceredigion tua 2 filltir i'r gogledd o dref Aberystwyth.
Mae'n boblogaidd gan ymwelwyr yn yr haf sy'n dod i fwynhau'r traeth ar lan Bae Clarach a cheir meysydd carafannau a chyfleusterau glan môr yno. Enwir y pentref ar ôl Afon Clarach, sy'n cyrraedd y môr yno.
Ceir llwybr troed sy'n dringo i ben Craig-glais (Constitution Hill).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]