Math o fynachlog neu gymuned Gristnogol gynnar oedd y clas. Daw'r enw o'r Lladin monastica classis. 'Claswr' oedd y gair am aelodau'r clas.
Roedd y clas yn rhan o'r Eglwys Geltaidd ac yn nodweddiadol o'r eglwys honno. Defnyddir y gair 'mynachlog' i ddisgrifio'r clas, ond mewn gwirionedd roedd y sefyllfa'n amrywio o le i le ac o gyfnod i gyfnod. Yn sicr nid mynachlogydd yn yr ystyr gyffredin heddiw oedden nhw. Credir fod tri math o ffurfiau ar y bywyd cymunedol Cristnogol yn y Gymru gynnar. Roedd rhai meudwyon yn byw 'yn yr anialawch', mewn ogofâu er enghraifft, ar ben eu hunain neu gyda chwmni bach o ddisgyblion neu gyd-feudwyon. Roedd yna gymunedau mwy rheolaidd yn ogystal, gan amlaf yn trin y tir o gwmpas llan neu eglwys gynnar. Yn olaf roedd yna ganolfannau mawr fel Tyddewi, Llanbadarn Fawr, Clynnog Fawr a Llanilltud Fawr gyda chlerigwyr a mynachod. Yn aml iawn roedd y sefydliadau hyn yn ganolfannau dysg.
Roedd rheolau'r clasau Cymreig yn fwy llac o lawer nac yn y mynachlogydd diweddarach a sefydlwyd yng Nghymru gan y Sistersiaid ac eraill. Roedd abad y clas a chlerigwyr eraill yn rhydd i briodi a chael plant. O ganlyniad roedd yr abadaeth a swyddi pwysig eraill yn tueddu i fod yn etifeddol ac yn cael eu trosglwyddo o'r tad i'r mab, ffaith a syfrdanodd y mynachod Normanaidd cyntaf. Roedd aelodau'r clas yn perchen tir fel unigolion yn ogystal. Cymunedau oeddynt felly, yn hytrach na mynachlogydd ffurfiol. Roeddent yn mwynhau nawdd brenhinoedd Cymreig ac roedd yn ddigwyddiad cyffredin i aelodau o'r teuluoedd brenhinol ymneilltuo i glas hefyd.