Enghraifft o'r canlynol | clefyd heintus, dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | viral hemorrhagic fever, Filoviridae infectious disease, clefyd heintus firol, hospital-acquired infection, clefyd |
Achos | Orthoebolavirus zairense |
Dyddiad darganfod | 26 Awst 1976 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae clefyd firaol Ebola (EVD), a elwir hefyd yn dwymyn hemorrhagig Ebola (EHF) neu Ebola ar ei ben ei hun, yn dwymyn hemorrhagig firaol a achosir gan 'ebolaviruses'. Mae arwyddion a symptomau fel arfer yn dod i'r golwg rhwng dau ddiwrnod a thair wythnos wedi i'r firws gael ei ddal, gan gynnwys twymyn, poen ynghylch y gwddf, poenau cyhyrol a chur pen. Yna ymddangosir ail gyfres o symptomau sef chwydu, rhyddni a brech ynghyd â gostyngiad yn weithredoedd yr afu a'r arennau. Yn ystod y cyfnod hwn mae dioddefwr fel arfer yn dechrau gwaedu'n fewnol neu'n allanol.[1] Ceir risg uchel o farwolaeth ynghlwm a'r clefyd ac y mae'n lladd rhwng 25 a 90 y cant o'r rheini wedi'u heintio, y cyfartaledd byw yw 50 y cant. Fel arfer, achosir marwolaeth gan bwysedd gwaed isel o ganlyniad i golled sylweddol mewn hylif corfforol. Mae dioddefwr yn marw fel rheol rhwng chwech ac un ar bymtheg o ddiwrnodau wedi i'r symptomau ymddangos.[2]
Ymleda'r firws drwy gysylltiad uniongyrchol hylifau corfforol, er enghraifft gwaed, naill ai o un unigolyn i'r llall neu drwy anifeiliaid.[3] Gellir dal y firws yn ogystal drwy eitem sydd wedi ei lygru a hylifau corfforol. Mae'n bosib y bydd hylifau megis llaeth o'r fron neu semen o gyn-ddioddefwr EVD yn cludo'r haint am gyfnod o wythnosau i fisoedd wedi gwellhad.[1][4][5] Y gred gyffredinol yw mai mega-ystlumod yw cludwyr arferol y cyflwr ac maent a'r gallu i ledaenu'r firws heb iddynt gael eu heffeithio. Gall glefydau eraill ymddangos yn debyg i EVA, er enghraifft malaria, colera, twymyn tyffoid, llid yr ymennydd a heintiau hemorrhagig feirol. Cynhelir profion gwaed er mwyn canfod RNA, gwrthgyrff feirol neu'r firws ei hun, a hynny i gadarnhau'r diagnosis.
Rhaid cynnal gwasanaethau meddygol cydlynol os ceir ffrwydrad o ddioddefwyr, a hynny ochr yn ochr â phroses ymgysylltu cymunedol trylwyr. Wrth gynnal gwasanaeth meddygol rhai canfod achosion o'r cyflwr mor gyflym â phosib, olrhain y cyswllt a wnaed gyda'r unigolion heintiedig, sicrhau mynediad cyflym i gyfleusterau labordai, cynnig gofal iechyd priodol i'r heintiedig, a gwaredi unrhyw gyrff marw drwy amlosgi neu gladdu trylwyr.[6] Dylid trin profion hylifau corfforol a meinweoedd dioddefwyr â gofal eithriadol. Wrth drin y cyflwr rhai cyfyngu ar ledaeniad y clefyd o anifeiliaid heintiedig. Gellir hefyd gwisgo dillad amddiffynnol o amgylch dioddefwr, ynghyd â golchi dwylo'n drylwyr wedi unrhyw gysylltiad. Ni cheir triniaeth benodol na phigiad pwrpasol er mwyn gwarchod rhag y firws, er bod nifer o driniaethau posibl yn cael eu hastudio ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae ymdrechion cefnogol yn gwella canlyniadau. Gall hyn gynnwys naill ai therapi ail-hydradu (yfed ychydig o ddŵr wedi ei felysu neu dŵr hallt) neu gynnig triniaeth hylifau mewnwythiennol ynghyd â thrin symptomau'n gyffredinol.
Adnabuwyd y clefyd am y tro cyntaf ym 1976, a hynny mewn dau achos cydamserol, un yn Nzara, a'r naill yn Yambuku, pentref ger Afon Ebola, a dyna le bathwyd yr enw.[7] Mae ffrwydradau o achosion EVD yn digwydd yn ysbeidiol mewn rhanbarthau trofannol o Affrica Is-Sahara. Rhwng 1976 a 2013 adroddodd Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfanswm o 24 achos yn cynnwys 1,716 o ddioddefwyr.[1][8] Serch hynny, cafwyd ffrwydrad sylweddol o'r cyflwr yng Ngorllewin Affrica yn ystod epidemig Rhagfyr 2013 i Ionawr 2016. Cofrestrwyd 28,616 o achosion ac arweiniodd y cyflwr at 11,310 o farwolaethau yn ystod y cyfnod. Erbyn y 29ain o Fawrth 2016 nid oedd yr achos o statws argyfyngus. Cychwynnodd ffrwydrad arall o achosion yn Affrica ym Mai 2017, a hynny yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.[9][10]
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: extra text: authors list (link)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)