Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 781, 752 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 3,321.85 ha |
Cyfesurynnau | 52.0867°N 3.1498°W |
Cod SYG | W04000265 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Pentref bychan a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Cleirwy[1] neu Cleiro (Saesneg: Clyro). Saif yn ardal Maesyfed yn agos i'r ffîn a Lloegr, tua milltir a hanner i'r gogledd-orllewin o'r Gelli Gandryll a 15 milltir i'r dwyrain o Aberhonddu, ar briffordd yr A438. Mae'n fwyaf adnabyddus oherwydd i Francis Kilvert fod yn gurad yma yn y 1870au, ac ysgrifennu yn ei ddyddiaduron am fywyd y pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[3]