Clogyrnach

Y pedwar mesur ar hugain
Sion Cent
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Un o'r pedwar mesur ar hugain ydyw'r clogyrnach, wedi'i sgwennu ar gynghanedd. Ceir dwy linell o gyhydedd fer ar y cychwyn a llinell 16 sillaf wedi ei rhannu'n dair rhan.

Dyma enghraifft o waith Gutun Owain:

Aur fynychle yw'r Fynachlog,
A'i chôr sy well na Chaer Sallog;
A drud doriadau
Y dail, a'r delwau,
A lleisiau lluosog.

Mae'r clogyrnach, fel y gwelir, yn odli fel a ganlyn:

a a b b a

gydag odl gyrch rhwng diwedd y pumed llinell a chanol y linell olaf.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in