Delwedd:Gray921.png, Cochlea-crosssection.svg | |
Enghraifft o'r canlynol | chiral organism subdivision type, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | subdivision of bony labyrinth, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | y glust fewnol, bony labyrinth |
Yn cynnwys | cochlear duct, vestibular duct, tympanic duct, Helicotrema |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y cochlea /kɒk.liə/ (hefyd cogwrn clust, troellen y glust; Hen Roeg kōchlias (κοχλίας) ‘cragen falwen’) yw rhan glywedol y glust fewnol. Mae'n geudod troellog yn y droellfa esgyrnog sy'n gwneud 2.5 tro o gwmpas ei echelin, neu'r modiolws, mewn bodau dynol.[1][2] Un o gydrannau pwysig y cochlea yw'r organ Corti, organ synhwyro'r clyw, sy'n cael ei ddosbarthu ar hyd y pared sy'n dyrannu siambrau hylif yn y bibell torchog taprog. Daw'r enw o'r gair Lladin am ‘cragen falwen’, sydd yn ei dro yn benthyg o'r Hen Roeg kochlías ‘cragen falwen’, sy'n tarddu o kóchlos (κόχλος) ‘malwen’ mewn cyfeiriad at ei siâp droellog; mae'r cochlea yn droellog mewn mamaliaid ac eithrio monotremau.