Coedybrenin

Coedybrenin
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.614533°N 3.126245°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ245025 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRussell George (Ceidwadwyr)
AS/au y DUCraig Williams (Ceidwadwr)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw Saesneg, gweler Kingswood (gwahaniaethu).

Pentref bychan yng nghymuned Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan, Powys, Cymru, yw Coedybrenin[1] (Saesneg: Kingswood).[2] Saif ar lan ddwyreiniol Afon Hafren, tua tair milltir a hanner i'r de o'r Trallwng, yn agos i'r ffin â Lloegr. Saif ar groesffordd ar yr A490 sy'n ei gysytllu a'r Trallwng i'r gogledd a'r Ystog i'r de-ddwyrain. Mae ffordd y B4388 yn ei gysylltu a Tre'r-llai a'r Trallwng i'r gogledd a Trefaldwyn i'r de.

Mae Llwybr Clawdd Offa yn pasio o fewn hanner milltir i'r pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[4]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 5 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in