Colomennod | |
---|---|
Ysguthan (Columba palumbus) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Columbiformes Latham, 1790 |
Teulu: | Columbidae Illiger, 1811 |
Genera | |
Gweler y rhestr |
Teulu o golomennod yw'r Columbidae, sy'n cynnwys y sguthan, y golomen wyllt a'r durtur. Dyma'r unig deulu yn urdd y Columbiformes. Mae'r rhain yn adar cryf eu corff gyda gwddf byr a phigau main, byr. Fel y twrci, y dylluan a'r parot mae gan rhai o aelodau'r teulu yma gwyrbilen ar waelod eu pigau. Gan fwyaf, mae'r golomen yn bwydo ar hadau, ffrwythau a phlanhigion. Mae'r teulu i'w gael ledled y byd, ond mae'r amrywiaeth fwyaf yn y byd yn Indomalayan (ar draws y rhan fwyaf o Dde a De-ddwyrain Asia ac i rannau deheuol Dwyrain Asia) ac Awstralasia. Mae'r teulu'n cynnwys tua 335 o rywogaethau.[1] Maen nhw'n codi nyth syml o ffyn, lle maen nhw'n dodwy un neu ddau ŵy gwyn. Mae'r rhieni'n cynhyrchu math o "laeth" ar gyfer eu cywion nhw.
Hadau a ffrwyth yw bwyd y rhan fwyaf o golomenod a gellir rhannu'r teulu'n ddau. Gall un math o golomenod sy'n perthyn i'r Colomennod Ffrwyth Atol fwyta pryfaid a phryfaid genwair a gwybed.[2]
Mae'n symbol rhyngwladol a Christnogol o heddwch ac o ran geirdarddiad, mae'n fenthyciad o'r Lladin columba gair a ddaeth i ynysoedd Prydain gan y Rhufeiniaid, fwy na thebyg.
Mae'r teulu wedi'u rhannu'n 50 genera gyda 13 rhywogaeth wedi difodi.[3]
Yn Saesneg, mae'r rhywogaethau llai yn dueddol o gael eu galw'n "doves" a'r rhai mwy yn "pidgeons".[4] Fodd bynnag, nid yw'r gwahaniaeth yn gyson,[4] ac nid yw'n bodoli mewn unrhyw iaith arall, gan gynnwys y Gymraeg. Yr aderyn y cyfeirir ato amlaf fel "colomen" yw'r golomen ddof (Columba livia domestica), istrywogaeth, a'r aderyn cyntaf i gael ei dofi a'i chadw er mwyn ei chig a'i hwyau, ac sy'n cael ei hadnabod mewn llawer o ddinasoedd fel y golomen wyllt (hefyd Columba livia domestica). Ond mae colomen wyllt hefyd yn enw ar rywogaeth o golomennod, sef y (Columba oenas).
Nyth digon tila mae'r golomen yn ei hadeiladu fel arfer, yn aml gan ddefnyddio ffyn a malurion eraill, y gellir eu gosod ar ganghennau coed, ar silff o ryw fath, neu ar y ddaear, yn dibynnu ar y rhywogaeth. Maent yn dodwy un neu (fel arfer) ddau wy gwyn ar y tro, ac mae'r ddau riant yn gofalu am y cywion, sy'n gadael y nyth ar ôl 25-32 diwrnod. Gall colomennod hedfan erbyn y maent yn 5 wythnos oed. Mae an y cywion hyn, leisiau gwichlyd anaeddfed ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o adar, gall colomennod o'r ddau ryw gynhyrchu "llaeth cropa" i'w fwydo i'w cywion, wedi'i secretu gan lif o gelloedd llawn hylif o leinin y cropa (neu crombil).