Corachedd | |
Dosbarthiad ac adnoddau allanol | |
Lavinia Warren, actores â chorachedd. | |
ICD-10 | E23.0, E34.2, E45.0, Q77.4 |
---|---|
ICD-9 | 253.3, 259.4 |
DiseasesDB | 80 |
MedlinePlus | 001176 |
MeSH | [1] |
Cyflwr meddygol yw corachedd pan bo unigolyn yn fyr ei daldra o ganlyniad i broblemau yn y chwarren bitẅidol sy'n arafu twf y corff. Weithiau fe'i ddiffinir fel taldra i oedolion sy'n llai na 147 cm,[1] ond mae hyn yn ddyrys gan nad yw taldra byr ei hunan yn afiechyd, er enghraifft ymhlith y pigmïaid.
Mae tua 200 o afiechydon ar wahân yn gallu achosi corachedd,[2] ac felly mae symptomau a nodweddion unigolion sydd â'r cyflwr yn amrywio'n eang.