Corryn

Corynnod/Pryfed cop
Gweddw ddu (Latrodectus mactans)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Arachnida
Urdd: Araneae
Is-urddau

Araneomorphae
Mesothelae
Mygalomorphae

Anifail di-asgwrn-cefn gydag wyth o goesau yw corryn (hefyd: pryf cop, copyn) a gallant gynhyrchu sidan (gweoedd) i ddal pryfed. Mae 'pryfed cop' neu 'gorrod' (weithiau corynnod) (urdd yr Araneae) yn arthropodau sy'n anadlu aer ac sydd ag wyth coes; maent yn droellwyr sy'n allwthio sidanwe i greu gwe (rhwyd o sidanwe), ac sy'n gallu chwistrellu gwenwyn.[1][2] Fel arfer, mae ganddynt hefyd ddau grafangorn (chelicerae) gyda ffangs. Nhw yw'r urdd fwyaf o arachnidau ac maent yn seithfed o ran amrywiaeth o r bywywogaethau o bob urdd o organebau.[3][4] Ceir hyd i bryfed cop ar bob cyfandir ac eithrio Antarctica, ac maent bron wedi ymsefydlu ym mhob math o gynefinoedd tir gwahanol. Yn 2021 cofnodwyd 49,623 o rywogaethau gwahanol mewn 129 o deuluoedd gan dacsonomegwyr.[5] Fodd bynnag, bu anghytuno ynghylch sut y dylid dosbarthu’r teuluoedd hyn i gyd, a gynigiwyd ers 1900.[6]

Yn anatomegol, mae pryfed cop yn wahanol i arthropodau eraill yn yr ystyr bod y segmentau arferol o'r corff yn cael eu hasio'n ddau dagmata, y ceffalothoracs neu'r prosoma, a'r opisthosoma, neu'r abdomen, a'u cysylltu â ffedisel bach, silindrog. Ar hyn o bryd ni cheir tystiolaeth bod pryfed cop erioed wedi cael rhaniad tebyg i thoracs ar wahân, ceir dadl yn erbyn dilysrwydd y term ceffalothoracs, sy'n golygu ceffalon (pen) ymdoddedig, a'r thoracs. Yn yr un modd, gellir ffurfio dadleuon yn erbyn defnyddio'r term abdomen, gan fod opisthosoma pob pry cop yn cynnwys calon ac organau anadlol, organau na chysylltir mohonyn a'r abdomen, fel arfer.[7]

Mae atodiadau'r corryn ar ei abdomen, sydd wedi'u haddasu'n droellwyr sy'n allwthio sidan, gwawn neu sidanwe o chwaren arbenigol. Gall gwe'r pry cop amrywio'n fawr o ran maint, siâp a faint o edau gludiog a ddefnyddir.

Ymddangosodd arachnidau tebyg i bryf copyn gyda'r gallu i allwthio gwe yn y cyfnod Defonaidd tua 386 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP), ond mae'n debyg bod yr anifeiliaid hyn yn brin o nyddynnau (cyfarpar i nyddu'r gwe). Mae pryfed cop go iawn wedi’u darganfod mewn creigiau Carbonifferaidd o 318 i 299 miliwn o flynyddoedd CP, ac maent yn debyg iawn i'r is-urdd mwyaf cyntefig sydd wedi goroesi, sef y Mesothelae. Ymddangosodd y prif grwpiau o bryfed cop modern, y Mygalomorphae a'r Araneomorphae, am y tro cyntaf yn y cyfnod Triasig, cyn 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Disgrifiwyd y rhywogaeth Bagheera kiplingi fel llysysol yn 2008,[8] ond mae pob rhywogaeth hysbys arall yn ysglyfaethwyr, yn bennaf yn ysglyfaethu ar bryfed ac ar bryfed cop eraill, er bod ychydig o rywogaethau o gorynod mawr hefyd yn bwyta adar a madfallod. Amcangyfrifir bod 25 miliwn tunnell o bryfed cop yn y byd yn lladd 400-800 miliwn o dunelli o ysglyfaeth y flwyddyn.[9] Defnyddiant ystod eang o strategaethau i ddal ysglyfaeth: ei ddal mewn gweoedd gludiog, ei laswio â bolas gludiog, dynwared yr ysglyfaeth i osgoi ei ganfod, neu redeg drosto.

Mae'r rhan fwyaf yn canfod ysglyfaeth yn bennaf trwy synhwyro dirgryniadau, ond mae gan yr helwyr mwyaf arbenigol olwg acíwt, ac mae helwyr y genws Portia yn dangos arwyddion o ddeallusrwydd yn eu dewis o dactegau a'u gallu i ddatblygu tachtegau newydd. Gan fod perfedd y pry cop yn rhy gul i gymryd solidau (hy bwyd), maen nhw'n hylifo'u bwyd trwy boeri arno ensymau treulio. Maent hefyd yn malu bwyd gyda gwaelodion eu pedipalps, gan nad oes gan arachnidau y gorfannau (math o ddannedd) sydd gan gramenogion a phryfed.

Er mwyn osgoi cael eu bwyta gan y benywod, sydd fel arfer yn llawer mwy, mae'r pryf cop gwrywaidd yn uniaethu ei hun â darpar gymar trwy amryw o ddefodau caru gymhleth. Gall gwrywod y rhan fwyaf o rywogaethau oroesi wedi iddynt gyplu, ond byr yw oes y rhai hynny hefyd! Mae menywod yn gwehyddu sach sidan i ddal yr wyau, a gall pob sach gynnwys cannoedd o wyau. Gofala benywod llawer o rywogaethau o bryfed cop am eu cywion, wedi iddynt ddeor, er enghraifft trwy eu cario o gwmpas neu trwy rannu bwyd gyda nhw. Lleiafrif iawn sy'n gymdeithasol, yn adeiladu gweoedd cymunedol a all gartrefu rhwng llond llaw a 50,000 o unigolion. O ran ymddygiad cymdeithasol, yma eto mae na gryn amrywiaeth: mae'r pryfed cop gweddw yn ansicr iawn ac nid ydynt yn oddefgar ychwaith! Ond mae eraill yn ddigon parod i gyd-hela a rhannu bwyd. Er bod y rhan fwyaf o bryfed cop yn byw am hyd at ddwy flynedd, gall tarantwla a chorynnod mygalomorph eraill fyw am hyd at 25 blynedd mewn caethiwed.

Er bod gwenwyn ychydig o rywogaethau yn beryglus i bobl, mae gwyddonwyr bellach yn ymchwilio i'r defnydd o wenwyn pry cop mewn meddygaeth ac fel plaladdwyr organig (nad ydynt yn llygru). Mae gwe sidan y pry cop yn darparu cyfuniad clyfar o ysgafnder, cryfder ac ystwythder, sy'n well na deunyddiau synthetig, ac mae genynnau'r sidan hwn wedi'u impio i fewn i famaliaid a phlanhigion i weld a ellir eu defnyddio fel ffatrïoedd i greu sidan. O ganlyniad i'w hymddygiadau amrywiol, mae pryfed cop wedi dod yn symbolau cyffredin mewn celf a mytholeg: amynedd, creulondeb a phwerau creadigol. Gelwir ofn afresymol o bryfed cop yn arachnoffobia.

  1. Cushing P.E. (2008) Spiders (Arachnida: Araneae).
  2. Selden, P.A.; Shear, W.A. (December 2008). "Fossil evidence for the origin of spider spinnerets". PNAS 105 (52): 20781–85. Bibcode 2008PNAS..10520781S. doi:10.1073/pnas.0809174106. PMC 2634869. PMID 19104044. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2634869.
  3. Sebastin, P.A. & Peter, K.V. (eds.) (2009).
  4. Dimitrov, Dimitar; Hormiga, Gustavo (7 January 2021). "Spider Diversification Through Space and Time". Annual Review of Entomology 66 (1): 225–241. doi:10.1146/annurev-ento-061520-083414. ISSN 0066-4170. https://doi.org/10.1146/annurev-ento-061520-083414. Adalwyd 10 December 2021.
  5. "Currently valid spider genera and species". World Spider Catalog. Natural History Museum Bern. Retrieved 2019-07-17.
  6. Foelix, Rainer F. (1996). Biology of Spiders. New York: Oxford University Press. t. 3. ISBN 978-0-19-509593-7.
  7. Shultz, Stanley; Shultz, Marguerite (2009). The Tarantula Keeper's Guide. Hauppauge, New York: Barron's. t. 23. ISBN 978-0-7641-3885-0.
  8. Meehan, Christopher J.; Olson, Eric J.; Reudink, Matthew W.; Kyser, T. Kurt; Curry, Robert L. (2009). "Herbivory in a spider through exploitation of an ant–plant mutualism". Current Biology 19 (19): R892–93. doi:10.1016/j.cub.2009.08.049. PMID 19825348.
  9. Nyffeler, Martin; Birkhofer, Klaus (14 March 2017). "An estimated 400–800 million tons of prey are annually killed by the global spider community". The Science of Nature 104 (30): 30. Bibcode 2017SciNa.104...30N. doi:10.1007/s00114-017-1440-1. PMC 5348567. PMID 28289774. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5348567.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy