Republika e Kosovës (Albaneg) | |
Math | gwladwriaeth unedol, gwlad dirgaeedig, gwladwriaeth a gydnabyddir gan rai gwledydd, gwlad |
---|---|
Prifddinas | Prishtina |
Poblogaeth | 1,883,018 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Ewrop |
Pennaeth llywodraeth | Isa Mustafa, Ramush Haradinaj, Albin Kurti, Avdullah Hoti, Albin Kurti |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Albaneg, Serbeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De Ddwyrain Ewrop, post-Yugoslavia states |
Lleoliad | Balcanau |
Arwynebedd | 10,909.02992 km² |
Yn ffinio gyda | Albania, Gogledd Macedonia, Montenegro, Serbia |
Cyfesurynnau | 42.55°N 20.83°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Cosofo |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Gwladwriaeth Cosofo |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Cosofo |
Pennaeth y wladwriaeth | Vjosa Osmani |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Cosofo |
Pennaeth y Llywodraeth | Isa Mustafa, Ramush Haradinaj, Albin Kurti, Avdullah Hoti, Albin Kurti |
Crefydd/Enwad | Rodnovery, Slavic mythology |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $9,412 million, $9,429 million |
Arian | Ewro |
Gwlad yn y Balcanau yn ne-ddwyrain Ewrop yw Cosofo[1][2] (Albaneg Kosovë/Kosova, Serbeg Косово и Метохија / Kosovo i Metohija). Hyd 17 Chwefror 2008 bu'n dalaith yn ne Serbia ac, fel Serbia ei hun, roedd yn rhan o'r hen Iwgoslafia. Ar ôl gwrthdaro chwerw rhwng Serbiaid ac Albaniaid yn y 1990au a achoswyd gan densiynau ethnig, mae'r dalaith yn cael ei gweinyddu gan y Cenhedloedd Unedig drwy UNMIK (United Nations Interim Administration Mission in Kosovo) ers diwedd Rhyfel Cosofo (1999). Ar 17 Chwefror 2008, cyhoeddodd llywodraeth Albanaidd y dalaith annibyniaeth, ond mae Serbiaid lleol (tua 10% o'r boblogaeth) yn gwrthod hynny.[3]