Craf y geifr | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
Urdd: | Asparagales |
Teulu: | Amaryllidaceae |
Is-deulu: | Allioideae |
Genws: | Allium |
Rhywogaeth: | A. ursinum |
Enw deuenwol | |
Allium ursinum L. |
Planhigyn blodeuol yw Craf y geifr (Lladin: Allium ursinum; Saesneg: Wild Garlic neu Ransoms; Ffrangeg: Ail des vignes) sy'n tyfu'n wyllt ar ochr ffyrdd. Mae ganddo sawl enw Cymraeg gan gynnwys: Garlleg gwyllt, Craf gwyllt, Craf y meysydd, Garlleg y brain, Garlleg Mair, Winwnsyn gwyllt, Winwnsyn y cŵn a Thriagl y tlawd.
Mae gan bob rhan ohono arogl garlleg cryf iawn. Maint y bwlb tanddaearol ydy rhwng 1 a 2 cm o ran diamedr. Mae'r prif goesyn rhwng 30 – 120 cm o daldra gyda 2 - 4 deilen hir rhwng 15 – 60 cm o ran hyd a'r rheiny yn drwchus gyda theimlad cŵyr cannwyll iddyn nhw. Pethau cymharol fychan ydy'r blodau: 2 – 5 mm yn unig o liw gwyn ysgafn, ysgafn a chwe phetal i bob un. Maen nhw'n blodeuo rhwng Mehefin ag Awst.
Oherwydd natur 'olewog' y dail, nid yw chwynladdwyr yn effeithiol iawn ar y planhigyn a gall fynd yn rhemp mewn gardd.