Math | gorynys, tiriogaeth ddadleuol |
---|---|
Poblogaeth | 2,340,921 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea, Gweriniaeth Crimea |
Gwlad | Wcráin, Rwsia |
Arwynebedd | 27,000 km² |
Gerllaw | Y Môr Du, Môr Azov |
Cyfesurynnau | 45°N 34°E |
Gorynys yn nwyrain Ewrop ar arfordir gogleddol y Môr Du, wedi'i amgylchynu bron yn gyfan gwbl gan y Môr Du a Môr Azov yw Crimea (Rwsieg: Крымский полуостров; Tatareg Crimea: Qırım yarımadası; Wcraineg: Кримський півострів). Saif i'r de o Wcráin ac i'r gorllewin o Kuban, Rwsia. Ers 2014 mae'r Crimea yn ffurfio Dosbarth Ffederal Crimea, sy'n cynnwys Gweriniaeth Crimea a Dinas Sefastopol.
Mae dau fôr o'i gwmpas: Y Môr Du a Môr Azov tua'r dwyrain gyda Isthmws Perekop yn ei gysylltu â'r tir mawr. Mae rhan helaeth y Crimea yn wastadedd ond mae'n codi i 1545m (5069 troedfedd) yn y de gyda chopa Gora Roman-Kosh, yr uchaf o gadwyn o fryniau ar hyd arfordir de-ddwyreiniol yr orynys a adnabyddir fel Mynyddoedd Crimea. Y prif ddinasoedd yw Feodosia, Kerch, Sevastopol, Yalta, Yevpatoria a Simferopol, y brifddinas.
Mae mwyafrif y boblogaeth (58%, Cyfrifiad 2001) yn Rwsiaid ethnig, gyda hefyd Wcrainiaid (24%) a Thatariaid Crimea (12%). Rwsieg yw mamiaith y mwyafrif (77%, Cyfrifiad 2001), er bod nifer o bobl â'r Datareg Crimea (11%) a'r Wcraineg (10%) fel mamiaith. Yr unig iaith swyddogol dan feddiant Wcráin oedd yr Wcraineg, ond ers ailymuno a Rwsia yn 2014 mae'r Rwsieg, Wcreineg a'r Datareg yn ieithoedd swyddogol.