Crimea

Crimea
Mathgorynys, tiriogaeth ddadleuol Edit this on Wikidata
LL-Q58635 (pan)-Gaurav Jhammat-ਕ੍ਰੀਮੀਆ.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,340,921 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea, Gweriniaeth Crimea Edit this on Wikidata
GwladWcráin, Rwsia Edit this on Wikidata
Arwynebedd27,000 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Du, Môr Azov Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45°N 34°E Edit this on Wikidata
Map
Am y bwlch yng Ngwynedd a adwaenir fel "Bwlch y Crimea" gweler Bwlch y Gorddinan.

Gorynys yn nwyrain Ewrop ar arfordir gogleddol y Môr Du, wedi'i amgylchynu bron yn gyfan gwbl gan y Môr Du a Môr Azov yw Crimea (Rwsieg: Крымский полуостров; Tatareg Crimea: Qırım yarımadası; Wcraineg: Кримський півострів). Saif i'r de o Wcráin ac i'r gorllewin o Kuban, Rwsia. Ers 2014 mae'r Crimea yn ffurfio Dosbarth Ffederal Crimea, sy'n cynnwys Gweriniaeth Crimea a Dinas Sefastopol.

Mae dau fôr o'i gwmpas: Y Môr Du a Môr Azov tua'r dwyrain gyda Isthmws Perekop yn ei gysylltu â'r tir mawr. Mae rhan helaeth y Crimea yn wastadedd ond mae'n codi i 1545m (5069 troedfedd) yn y de gyda chopa Gora Roman-Kosh, yr uchaf o gadwyn o fryniau ar hyd arfordir de-ddwyreiniol yr orynys a adnabyddir fel Mynyddoedd Crimea. Y prif ddinasoedd yw Feodosia, Kerch, Sevastopol, Yalta, Yevpatoria a Simferopol, y brifddinas.

Mae mwyafrif y boblogaeth (58%, Cyfrifiad 2001) yn Rwsiaid ethnig, gyda hefyd Wcrainiaid (24%) a Thatariaid Crimea (12%). Rwsieg yw mamiaith y mwyafrif (77%, Cyfrifiad 2001), er bod nifer o bobl â'r Datareg Crimea (11%) a'r Wcraineg (10%) fel mamiaith. Yr unig iaith swyddogol dan feddiant Wcráin oedd yr Wcraineg, ond ers ailymuno a Rwsia yn 2014 mae'r Rwsieg, Wcreineg a'r Datareg yn ieithoedd swyddogol.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy