Enghraifft o'r canlynol | math o organ, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | organ anifail, cynnyrch anifeiliaid, endid anatomegol arbennig, organ synhwyro |
Cysylltir gyda | byrsa isgroenol |
Yn cynnwys | dermis, epidermis |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Croen (llu. crwyn) yw'r haen o feinwe allanol sydd fel arfer yn feddal, hyblyg ac sy'n gorchuddio corff anifail asgwrn cefn, gyda thair prif swyddogaeth: amddiffyn, rheoleiddio a theimlo.
Mae gan orchuddion anifeiliaid eraill, megis allsgerbwd yr arthropod, strwythur a chyfansoddiad cemegol gwahanol iawn. Y gair Lladin am groen yw cutis. Mewn mamaliaid, mae'r croen yn organ o'r system bilynnol sy'n cynnwys sawl haen o feinwe echgroenol (ectodermal) ac mae'n gwarchod y cyhyrau, yr esgyrn, y gewynnau a'r organau mewnol gwaelodol. Mae croen o natur wahanol yn bodoli mewn amffibiaid, ymlusgiaid ac adar.[1] Chwaraea'r croen (gan gynnwys meinweoedd croenol ac isgroenol) ran hanfodol yn ffurfiant, strwythur, a swyddogaeth rannau allsgerbydol megis: cyrn gwartheg a rhinos, osiconau jiráffs, osteoderm yr armadilo, ac asgwrn meddal y pidyn a'r clitoris.[2]
Mae gan bob mamal rywfaint o flew ar eu crwyn, hyd yn oed mamaliaid morol fel morfilod, dolffiniaid, a llamhidyddion sy'n ymddangos yn ddi-flew. Y croen yw'r arwyneb a ddaw i gyswllt â'r amgylchedd a dyma'r amddiffyniad cyntaf y corff rhag ffactorau allanol. Er enghraifft, mae'r croen yn chwarae rhan allweddol wrth amddiffyn y corff rhag pathogenau [3] a cholli gormod o ddŵr.[4] Ei swyddogaethau eraill yw inswleiddio, rheoleiddio tymheredd, teimlad, a chynhyrchu fitamin D. Gall croen sydd wedi'i ddifrodi'n ddifrifol wella trwy ffurfio craith. Mae hwn weithiau'n o liw ychydig yn wahanol ac yn rhychiog. Mae trwch y croen hefyd yn amrywio o leoliad i leoliad ar organeb. Mewn bodau dynol, er enghraifft, y croen sydd wedi'i leoli o dan y llygaid ac o amgylch yr amrannau yw'r croen teneuaf ar y corff ac yn ddim ond 0.5 mm o drwch ac mae'n un o'r meysydd cyntaf i ddangos arwyddion o heneiddio. Y croen ar gledrau a gwadnau'r traed yw'r croen mwyaf trwchus ar y corff a gall fod cymaint a 4 mm o drwch. Mae cyflymder ac ansawdd iachâu clwyfau yn y croen yn cael ei hybu gan estrogen.[5][6][7]
Blew trwchus yw ffwr.[8] Yn bennaf, mae ffwr yn inswleiddio'r corff a gall hefyd weithredu fel nodwedd rywiol eilaidd neu fel cuddliw. Ar rai anifeiliaid fel yr eliffant, mae'r croen yn galed ac yn drwchus iawn a gellir ei brosesu i greu lledr. Mae gan ymlusgiaid a'r rhan fwyaf o bysgod gennau amddiffynnol caled ar eu crwyn, i'w hamddiffyn, ac mae gan adar blu caled, pob un wedi'i wneud o beta-ceratinau. Nid yw croen amffibiaid yn amddiffyniad cryf, yn enwedig o ran symudiad cemegau trwy'r croen, ac yn aml mae'n caniatau osmosis. Er enghraifft, byddai broga sy'n eistedd mewn hydoddiant o anesthetig yn syrthio i gysgu'n gyflym wrth i'r cemegyn dryledu trwy ei groen. Mae croen amffibiaid yn chwarae rhan allweddol mewn goroesiad bob dydd a'u gallu i fanteisio a llawer o gynefinoedd ac amodau ecolegol gwahanol.[9]
Ar 11 Ionawr 2024, adroddodd biolegwyr fod y croen hynaf y gwyddys amdano wedi'i ddarganfod: ffosil tua 289 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ac o bosibl croen ymlusgiad hynafol.[10][11]