Math | cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Blaenrheidol |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.422682°N 3.84605°W |
Gwleidyddiaeth | |
Rheolir gan | Statkraft AS |
Cronfa ddŵr yn sir Ceredigion yw Cronfa Dinas. Creuwyd y llyn ar afon Rheidol trwy godi argae ar yr afon honno fel rhan o waith hydroelectrig Cwm Rheidol.
Mae'r gronfa yn llyn 38 acer sy'n gorwedd yng Nghwm Rheidol tua milltir i'r gogledd o bentref Ponterwyd. Bwydir y gronfa gan ddŵr afon Rheidol ei hun, sy'n llifo o gronfa Nant-y-moch i'r gogledd, ar lethrau Pumlumon, a gan ffrwd sy'n llifo o Lyn Syfydrin, i'r gogledd-orllewin.