Culfor Hormuz

Culfor Hormuz
Mathculfor Edit this on Wikidata
LL-Q13955 (ara)-Zinou2go-مضيق هرمز.wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMôr Arabia Edit this on Wikidata
GwladIran, Oman, Yr Emiradau Arabaidd Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau26.6°N 56.5°E Edit this on Wikidata
Map

Mae Culfor Hormuz[1] (Arabeg: مضيق هرمز - Madīq Hurmuz) yn gulfor sy'n gwahanu Gwlff Persia yn y gorllewin oddi wrth Gwlff Oman yn y dwyrain. Ar ochr ogleddol y culfor mae Iran, ac ar yr ochr ddeheuol Yr Emiradau Arabaidd Unedig a Musandam, sy'n rhan o Oman.

Mae'r culfor yn 21 milltir o led yn ei fan gulaf. Dyma'r unig ffordd allan o Gwlff Persia i'r llongau tancer sy'n cario olew o'r gwledydd o amgylch y Gwlff, ac amcangyfrifir bod tua 40 y cant o olew y byd yn mynd trwy'r culfor yma. Oherwydd hyn, mae o bwysigrwydd strategol mawr.

  1. Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 95.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in