Math | dyffryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Bro neu ardal wledig yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin yw Cwm Gwendraeth. Er bod yr enw Cwm Gwendraeth yn cael ei ddefnyddio am yr ardal, ceir dau gwm Gwendraeth mewn gwirionedd, sef Cwm Gwendraeth Fawr a Chwm Gwendraeth Fach, a ffurfir gan afonydd Gwendraeth Fawr, sy'n tarddu yn Llyn Llech Owain, a Gwendraeth Fach, sy'n tarddu ym mryniau Dyffryn Tywi. Gorwedd y fro rhwng Rhydaman, Llanelli a Caerfyrddin.
Mae Cwm Gwendraeth yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg ac yn cael ei ystyried fel arfer yn rhan o'r Fro Gymraeg.
Yn ddiweddar, sefydlwyd Menter Cwm Gwendraeth, menter iaith i hyrwyddo'r defnydd ymarferol o'r iaith Gymraeg yn y fro.
Yn rhan uchaf Cwm Gwendraeth, rhwng Y Tymbl, Dre-fach a Cross Hands, ceir Parc Coetir y Mynydd Mawr.