Cwmni (uned filwrol)

Uned filwrol barhaol sy'n ffurfio rhan o fataliwn neu gatrawd o droedfilwyr yw cwmni. Rhennir yn ddau blatŵn neu ragor, dan arweiniad capten neu uwchgapten. Hwn yw'r corff lleiaf o filwyr sy'n gweithredu fel uned weinyddol a thactegol gyflawn, gyda phencadlys ei hunan.[1]

  1. (Saesneg) company (military unit). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mai 2017.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy