Sain | |
Rhiant gwmni | Sain yw rhiant gwmni label Sain, Rasal, Crai a Slic. |
---|---|
Sefydlwyd | 1969 |
Sylfaenydd | Dafydd Iwan, Huw Jones, a Brian Morgan Edwards |
Math o gerddoriaeth | Clasurol, corawl, gwerin/byd, poblogaidd, gwlad, plant |
Gwlad | Cymru |
Gwefan swyddogol | sainwales.com |
Cwmni a label recordio Cymreig yw Sain. Erbyn heddiw Sain yw cynhyrchydd recordiau mwyaf Cymru gyda cherddoriaeth werin, roc, pop, hip hop, rap, canu gwlad a chlasurol yn rhan o’r ddarpariaeth ganddynt. Ystyrir mai Sain yw y cwmni recordio gyntaf Cymreig i fod yn hunangynhaliol. Rhyddhawyd sengl gyntaf Sain yn Hydref 1969 o dan yr enw "Dŵr" gan Huw Jones. Roedd yn gan am foddi cwm Tryweryn. Recordiwyd nifer o ganeuon cynnar y cwmni yn stiwdio Rockfield yn Sir Fynwy. Yn 2017 rhyddhaodd Sain dros 7,000 o glipiau sain a 498 clawr albwm.