Enghraifft o'r canlynol | cwmni theatr, busnes |
---|---|
Daeth i ben | 1984 |
Crëwr | Wilbert Lloyd Roberts |
Gwlad | Cymru |
Dechrau/Sefydlu | 1965 |
Sylfaenydd | Wilbert Lloyd Roberts |
Gwladwriaeth | Cymru |
Cwmni Theatr Cymraeg a fu'n weithredol rhwng 1965 a 1984 oedd Cwmni Theatr Cymru neu Theatr Cymru. Ystyriwyd y cwmni yn rhyw lun o ddelfryd o Theatr Genedlaethol i Gymru, ac yn rhagflaenydd i Theatr Genedlaethol Cymru. Sefydlwyd y Cwmni gan Wilbert Lloyd Roberts oedd ar y pryd yn gyfarwyddwr yn adran Gymraeg y Welsh Theatre Company.
Bu'r cwmni yn feithrinfa i lawer o actorion Cymraeg ac yn gyfle iddynt gael y profiad o fod yn rhan o gwmni Rep, fel Maureen Rhys, John Ogwen, Gaynor Morgan Rees, Beryl Williams, Stewart Jones, Sharon Morgan, Lisabeth Miles, Sue Roderick a Huw Ceredig. Bu'r diddanwr Ryan Davies yn aelod o'r cynhyrchiad Pros Kairon ym 1966.
Cwmni Theatr Cymru oedd hefyd yn gyfrifol am lwyfannu cynyrchiadau cyntaf dramâu nodedig yn y Gymraeg fel dramâu Gwenlyn Parry (Y Tŵr, Y Ffin, Tŷ Ar Y Tywod, Saer Doliau, Sál), dramâu Saunders Lewis (Esther, Cymru Fydd) a dramâu buddugol cystadleuaeth y Ddrama Hir yn yr Eisteddfod Genedlaethol fel Byd O Amser a Cyfyng Gyngor.
Wedi i'r Cwmni fethdalu ym 1984, sefydlwyd Cwmni Theatr Gwynedd yn y gobaith o ail-sefydlu naws y blynyddoedd cynnar.