Math | rhanbarth, ardal ddiwylliannol, great homeland |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Irac Iran Syria Twrci |
Cyfesurynnau | 37.558513°N 43.549805°E |
Mae Cwrdistan ( [ˌkurdɪˈstan] ( gwrando); "Mamwlad y Cwrdiaid" neu "Gwlad y Cwrdiaid";[1] hefyd a arferai gael ei alw'n Curdistan;[2][3] enw hynafol: Corduene[4][5][6][7][8][9][10]) neu Cwrdistan Fwyaf yn ardal daearyddol a diwylliannol lle mai Cwrdiaid yw mwyafrif y boblogaeth.[11] Dyma ardal hanesyddol, iaith, a hunaniaeth cenedlaethol Cwrdaidd.[12] Yn fras, mae Cwrdistan yn cwmpasu gogledd-orllewin cadwyn mynyddoedd Zagros a dwyrain cadwyn mynyddoedd Taurus.[13]
Mae defnydd cyfoes o'r term yn cyfeirio at bedair rhan o Gwrdisdtan Fwyaf, sydd yn cynnwys de-ddwyrain Twrci (Gogledd Cwrdistan), gogledd Syria (Rojava neu Gorllewin Cwrdistan), gogledd Irac (De Cwrdistan), a gogledd-orllewin Iran (Dwyrain Cwrdistan).[14][15] Mae rhai cyfundrefnau cenedlaetholaidd Cwrdaidd yn edrych i greu cenedl annibynnol sydd am gynnwys rhai neu'r holl o'r ardaloedd yma gyda mwyafrif Cwrdaidd, tra mae eraill yn ymgyrchu am fwy o hunan-lywodraeth o fewn ffiniau cenedlaethol presennol. [16][17]
Enillodd Cwrdistan Iracaidd ei statws hunan-lywodraeth gyntaf mewn cytundeb gyda llywodraeth Irac yn 1970, ac fe ail-gadarnhawyd ei statws hunan-lywodraethol o fewn gweriniaeth ffederal Irac yn 2005.[18] Yn Iran, mae talaith o'r enw Cwrdistan, ond nid yw'n hunan-lywodraethol. Roedd Cwrdiaid a gwffiodd yn rhyfel cartref Syria'n medru cymeryd rheolaeth o rannau helaeth o ogledd Syria'n ystod y rhyfel fel oedd lluoedd yn ffyddlon i Bashar al-Assad yn tynnu'n ôl i gwffio mewn rhannau eraill o'r wlad. Yn dilyn sefydlu eu llywodraeth eu hunain, galwodd rhai Cwrdiaid am sefydlu hunan-lywodraeth mewn Syria ddemocratig; gobeithiai eraill sefydlu Gwrdistan annibynnol.[19]