Enghraifft o'r canlynol | cylchdaith llys |
---|---|
Gwladwriaeth | Cymru |
Fel nifer eraill o frenhinoedd a thywysogion yn yr Oesoedd Canol, arferai llys Tywysogion Gwynedd fynd ar gylchdaith gyda'r tywysog ei hun o gwmpas teyrnas Gwynedd o bryd i'w gilydd. Er fod gan y tywysogion llysoedd parhaol - yn Aberffraw ac Abergwyngregin (Garth Celyn) er enghraifft - yr oedd yn bwysig fod y tywysog yn ymweld â rhannau eraill o'r deyrnas er mwyn dangos ei awdurdod a gweinyddu'r wlad. Byddai swyddogion llys y tywysog a'u gweision yn teithio yn ei gwmni, ynghyd â gosgordd o filwyr. Darperid llety i'r tywysog a'i wŷr ym maerdref pob cwmwd neu gantref. Yn ddiweddarach daeth y mynachlogydd Sistersiaidd a'u tiroedd yn rhan o'r cylch hefyd.