Y Traethodydd (1845-1899) | |
Enghraifft o'r canlynol | llyfrgell ddigidol |
---|---|
Gweithredwr | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Gwefan | http://welshjournals.llgc.org.uk/, https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/ |
Mae Cylchgronau Cymru Ar-lein yn brosiect sy'n darparu mynediad di-dâl i ysgolheictod o Gymru i fyfyrwyr, athrawon ac ymchwilwyr. Mae Cylchgronau Cymru'n darparu mynediad i gylchgronau'n ymwneud â Chymru a gyhoeddwyd rhwng 1735-2007. Mae'r teitlau'n amrywio o gyhoeddiadau academaidd a gwyddonol i gylchgronau llenyddol a phoblogaidd.
Mae ôl-rifynnau dros 100 teitlau wedi eu digido ar gael, yn amrywio o gyhoeddiadau academaidd a gwyddonol i gylchgronau llenyddol a phoblogaidd. Mae rhifynnau cyflawn pob teitl wedi’u cynnwys; mae’r rhifyn diweddaraf y gellir ei gael yn dibynnu ar y cyhoeddwr, a bydd yn amrywio o deitl i deitl.
Ymgymerwyd â’r gwaith o gyflwyno’r cylchgronau ar y we gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth JISC a Llywodraeth Cymru, a chydweithrediad cyhoeddwyr ac awduron.