Cymbrieg

Cymbrieg
Siaredir yn De'r Alban, Cumberland, rhannau Westmorland o Northumberland, Swydd Gaerhirfryn ac efallai Gogledd Swydd Efrog
Difodiant iaith 11g–12g [1]
Teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd
Codau ieithoedd
ISO 639-1 Dim
ISO 639-2
ISO 639-3 xcb
Wylfa Ieithoedd

Cymbrieg neu Cymbreg oedd cangen o Frythoneg yr Hen Ogledd – sef tiriogaethau'r Brythoniaid yn yr ardaloedd sydd bellach yn rhan o dde'r Alban a gogledd Lloegr. Yn nhyb y mwyafrif o ieithegwyr, bu farw'r Gymbreg cyn y 12g neu’r 13g wedi cwymp Teyrnas Ystrad Clud a’i rhannu rhwng yr Alban a Lloegr.

Mae ei statws ieithyddol yn ddadleuol. "Tafodiaith Frythonig debyg i'r Gymraeg" yw cynnig y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru,[2] er enghraifft. Nid yw’n glir ai fel iaith ar wahân neu fel tafodiaith o'r Frythoneg yn perthyn yn agos i Hen Gymraeg yn unig y dylid ystyried Cymbrieg. Gwahanwyd ardaloedd Brythoneg eu hiaith yr Hen Ogledd oddi wrth deyrnasoedd Brythonaidd Cymru ar ôl brwydr Caer ym 616, er y bu cysylltiadau rhwng teyrnas Gwynedd ac Ystrad Clud ar y môr hyd y Canol Oesoedd. Mae'n anodd profi bod unrhyw wahaniaethau mawr rhwng y Gymraeg a Chymbrieg o'r dystiolaeth enwau lleoedd sy'n edrych mwy neu lai yn rhai Cymraeg.

Yn y 10g yr oedd ymosodiadau'r Llychlynwyr yn ffyrnig iawn a bu'n hallt iawn ar y Saeson yng ngogledd Lloegr a chollasant eu grym ar nifer o ardaloedd a fu gynt o dan eu hawdurdod. Mae'n bosibl bod y Gymbrieg yn dal ar lafar yn yr ardaloedd hyn ond gwelwyd ymestyn nerth teyrnas Ystrad Clud (a oedd yn dal o dan dywysogion Cymbrieg eu henwau) yn y 10g i gynnwys rhannau o Lleuddion yn ogystal ag Ystrad Clud ei hun, glannau deheuol Llyn Llumon, "Swydd Llannerch" (Lanarkshire), "Swydd Dinprys" (Dumfriesshire), "Swydd Pebyll" (Peeblesshire), Swydd Aeron (Ayrshire), Swydd Cumberland - sef ardal Caerliwelydd gan gynnwys Ystrad Iddon (Eden Valley), Ystrad Alun (Allerdale) a rhannau o Swydd Westmorland.[3][4][5]

Dywedir yn draddodiadol bod ffiniau gwreiddiol Esgobaeth Caerliwelydd yn dynodi ffiniau Teyrnas Ystrad Clud yn Lloegr a rhai Esgobaeth Glasgau yn eu dynodi yn yr Alban.

Nid oes testun ysgrifenedig Cymbrieg ar glawr ac mae'r dystiolaeth yn dod o enwau lleoedd, rhai termau cyfreithiol,[6] a rhai geiriau yn nhafodieithoedd Saesneg ardaloedd a fu unwaith yn rhan o'r Hen Ogledd.

  1. Nicolaisen, W. F. H. Scottish Place Names t. 131
  2. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd), erthygl ar 'Yr Hen Ogledd'.
  3. Barrow, G. W. S. (1994) ‘The Scots and the North of England’ yn E. King (gol.) The Anarchy of King Stephen’s Reign. Rhydychen. t. 236
  4. Kirby, D. P. (1962) ‘Strathclyde and Cumbria: A Survey of Historical Development Until 1092’ yn Trans. CWAAS. 62, pp. 77-94
  5. Wilson, P. A. (1966) ‘On the Use of the Terms “Strathclyde” and “Cumbria” yn Trans. CWAAS. 66. pp. 67-92
  6. Jackson, K.H. (1958) Language and History in Early Britain, Caeredin: Edinburgh University Press

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy