Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1877 |
Gwefan | https://www.stjohninternational.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhwydwaith byd-eang o wasanaethau ambiwlans yw Cymdeithas Ambiwlans Sant Ioan (Saesneg: St John Ambulance Association) sy'n rhan o Urdd Sant Ioan. Mae'n cynnwys 400,000 o aelodau mewn 39 o wledydd.[1] Mae Ambiwlans Sant Ioan yn aml yn gwasanaethu digwyddiadau cyhoeddus mawr,[2] megis cyngherddau,[3] cystadlaethau chwaraeon, a jiwbilïau.[4]
Sefydlwyd y Gymdeithas ym 1877 gan aelodau Urdd Brydeinig Sant Ioan, oedd yn dymuno hyfforddi aelodau'r cyhoedd mewn cymorth cyntaf. Mewn nifer o ardaloedd Gwledydd Prydain, Ambiwlans Sant Ioan oedd yr unig wasanaeth ambiwlans ar gael nes sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym 1948. Bu rhai o nyrsiau Sant Ioan yn gofalu am gleifion mewn tai eu hunain. Cyfunodd Cymdeithas Ambiwlans Sant Ioan a Brigâd Ambiwlans Sant Ioan ym 1974.[5]
Rhennir Ambiwlans Sant Ioan yn unedau o wirfoddolwyr a hyfforddir mewn cymorth cyntaf a gofal iechyd yn y cartref. Maent yn dibynnu ar feddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill am gyngor technegol.[6]