Cynddelw Brydydd Mawr | |
---|---|
Ganwyd | 1155 |
Bu farw | 1195 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1155 |
Bardd mwyaf y 12g yng Nghymru oedd Cynddelw Brydydd Mawr (fl. tua 1155 – 1195). Ef oedd y mwyaf cynhyrchiol o ddigon o Feirdd y Tywysogion ac efallai'r pwysicaf. Canai i dywysogion Tair Talaith Cymru, ym Mhowys, Gwynedd a'r Deheubarth, ac er iddo gael ei eni ym Mhowys mae 'na le i'w ystyried yn bencerdd Cymru gyfan.