Cyngor Dosbarth Caerfyrddin

Cyngor Dosbarth Caerfyrddin
Motto: ONI HEUIR NI FEDIR
Daearyddiaeth
Pencadlys 3 Heol Spilman, Caerfyrddin
Hanes
Tarddiad Deddf Llywodraeth Leol 1972
Crëwyd 1974
Diddymwyd 1996
Ailwampio Cyngor Sir Gar
Israniadau
Math Cymuned

Cyngor Dosbarth Caerfyrddin oedd awdurdod lleol yn rhan ganolog Sir Dyfed, Cymru a grëwyd yn 1974 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, oedd cyngor lleol ardal dref Caerfyrddin, rhannau o Gwm Gwendraeth, a gogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin yn cynnwys trefi Castellnewydd Emlyn, Llanybydder, Hendy-gwyn ar Dâf, Sanclêr, a Talacharn

Pencadlys y cyngor oedd 3 Heol Spilman, Caerfyrddin sydd bellach yn Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Diddymwyd yr awdurdod yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996 pan ddaeth yr ardal dan weinyddiaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in