Cyfeiria'r term cynnwys rhydd, neu wybodaeth rydd, at unrhyw fath o waith at bwrpas, gwaith celf, neu gynnwys heb unrhyw gyfyngiad cyfreithiol arwyddocaol ar ryddid pobl i ddefnyddio, dosbarthu copïau, addasu a dosbarthu gwaith sy'n tarddu o'r cynnwys.[1] Mae'n wahanol i gynnwys agored; gellir addasu cynnwys neu ffeiliau "rhydd"; nid yw bob amser yn bosib gwneud hynny gyda ffeiliau "agored".
Mae cynnwys rhydd yn cwmpasu'r holl weithiau sydd yn y parth cyhoeddus a'r gweithiau hynny sydd â hawlfraint arnynt sydd â thrwyddedau sy'n parchu ac ategu'r rhyddid y sonir amdano uchod. Am fod cyfraith hawlfraint yn rhoi rheolaeth fonopoliaidd i ddeiliaid gweithiau yn awtomatig dros eu creadigaethau yn y mwyafrif o wledydd, rhaid nodi cynnwys sydd â hawlfraint arno'n rhydd, fel arfer drwy gynnwys cyfeiriadau neu gynnwys datganiadau trwyddedu o fewn y gwaith.
Er yr ystyrir darn o waith sydd yn y parth gyhoeddus am fod ei hawlfraint wedi dirwyn i ben yn rhydd, gallai ddod yn an-rhydd unwaith eto gan ddod yn an-rhydd neu anghyfreithlon os yw'r gyfraith hawlfraint yn newid.[2]