Cynwyd

Cynwyd
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth542, 610 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,015.38 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.959°N 3.406°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000150 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ056411 Edit this on Wikidata
Cod postLL21 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auKen Skates (Llafur)
AS/auSimon Baynes (Ceidwadwyr)
Map
Erthygl am y pentref yw hon. Am y sant gweler Cynwyd (sant).

Pentref a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Cynwyd ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Roedd gynt yn yr hen Sir Feirionnydd. Saif ar y ffordd B4401, tua dwy filltir i'r de-ddwyrain o dref Corwen, lle mae Afon Trystion yn ymuno ag Afon Dyfrdwy. Gerllaw mae coedwig gonifferaidd Coed Cynwyd. Gorwedd y pentref ym mhlwyf Llangar, yn Nyffryn Edeirnion, wrth droed Y Berwyn.

Ceir yma ddwy dafarn, y Prince of Wales a'r Blue Lion, a cheir hostel ieuenctid. Yma hefyd mae lleoliad man sefydlu cwmni trelars Ifor Williams. Saif Eglwys Llangar rhwng Cynwyd a Chorwen, un o eglwysi mwyaf nodedig Cymru, gyda'i murluniau canoloesol.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).[1][2]

Yn ôl yr hanesydd Antony Carr, Cynwyd oedd canolfan cwmwd Edeirnion, ac yma y deuai hyd at 30 o farwniaid Edeirnion at ei gilydd, mewn cae o'r enw Cae Llys a oedd yn rhan o Fryn yr Orsedd (Bryn yr Eryr heddiw). Mae'n bur debyg mai dyma darddiad yr enw Cynwyd, sef 'man cyfarfod'. Yn y 12g talwyd mwy o drethi gan Drigolion Cynwyd nag unrhyw dref-ddegwm arall yn y cwmwd.

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy