Cytundeb Paris (2016)

Cytundeb Paris
     Partïon-wladwriaethau     Llofnodwyr      Partïon hefyd a gwmpesir gan gadarnhad yr Undeb Ewropeaidd      Nid yw'r cytundeb yn berthnasol
Enghraifft o'r canlynolcytundeb, cytundeb ar yr amgylchedd Edit this on Wikidata
Dyddiad12 Rhagfyr 2015 Edit this on Wikidata
AwdurY Cenhedloedd Unedig Edit this on Wikidata
Rhan oConfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd Edit this on Wikidata
IaithSaesneg, Arabeg, Sbaeneg, Tsieineeg, Rwseg, Ffrangeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi12 Rhagfyr 2015 Edit this on Wikidata
LleoliadParis, Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Cytundeb Paris (Ffrangeg: l'accord de Paris) yn gytundeb o fewn Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (UNFCCC), ar liniaru, addasu a chyllido ar gyfer newid hinsawdd, a lofnodwyd yn 2016. Ei ragflaenydd yw Protocol Kyoto (1992). Trafodwyd y cytundeb gan gynrychiolwyr 196 o bartïon (gwladwriaethau) yn 21ain Cynhadledd Partïon yr UNFCCC yn Le Bourget, ger Paris, Ffrainc, a’i mabwysiadu trwy gonsensws ar 12 Rhagfyr 2015.

Ym Mawrth 2021, roedd 191 aelod o'r UNFCCC yn bartïon i'r cytundeb. Tynnodd yr Unol Daleithiau yn ôl o'r cytundeb yn 2020, ond ailymunodd yn 2021. O'r chwe aelod-wladwriaeth UNFCCC nad ydyn nhw wedi cadarnhau'r cytundeb, yr unig allyrwyr mawr yw Iran, Irac a Thwrci, er bod Arlywydd Irac wedi cymeradwyo.

Nod hirdymor Cytundeb Paris yw cadw'r cynnydd mewn tymheredd cyfartalog byd-eang o dan 2 °C (3.6 °F) hynny yw, uwchlaw'r lefelau cyn-ddiwydiannol; ac i fynd ar drywydd ymdrechion i gyfyngu'r cynnydd i 1.5 °C (2.7 °F), gan gydnabod y byddai hyn yn lleihau risgiau ac effeithiau newid hinsawdd yn sylweddol. Dylid gwneud hyn trwy leihau allyriadau cyn gynted â phosibl, er mwyn "sicrhau cydbwysedd rhwng allyriadau anthropogenig gan ffynonellau a symudiadau gan sinciau yn ail hanner y 21g. Mae hefyd yn anelu at gynorthwyo partïon i addasu i effeithiau andwyol newid hinsawdd, a gwneud "cyllid sy'n sicrhau allyriadau nwyon tŷ gwydr isel a datblygiad sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd."

O dan Gytundeb Paris, rhaid i bob gwlad bennu, cynllunio ac adrodd yn rheolaidd ar y cyfraniad y mae'n ei wneud i liniaru cynhesu byd-eang. Nid oes unrhyw fecanwaith yn gorfodi gwlad i osod targedau allyriadau penodol erbyn dyddiad penodol, ond dylai pob targed fynd y tu hwnt i dargedau a osodwyd yn flaenorol. Mewn cyferbyniad â Phrotocol Kyoto 1997, mae'r gwahaniaeth rhwng gwledydd datblygedig a gwledydd sy'n datblygu yn aneglur, fel bod yn rhaid i'r olaf hefyd gyflwyno cynlluniau ar gyfer lleihau allyriadau.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy