Rhyd Chwima, lle arwyddwyd y cytundeb | |
Enghraifft o'r canlynol | cytundeb heddwch |
---|---|
Dyddiad | 29 Medi 1267 |
Rhan o | Ymosodiad y Normaniaid ar Gymru |
Lleoliad | Trefaldwyn |
Gwladwriaeth | Cymru |
Cytundeb hanesyddol a phwysig a arwyddwyd pan gyfarfu'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd a Harri III o Loegr ar 29 Medi 1267 oedd Cytundeb Trefaldwyn. Yn y cytundeb roedd Brenin Harri III o Loegr (a deyrnasodd rhwng 1216 a 1272) yn cydnabod safle Llywelyn fel Tywysog Cymru, gyda'r hawl i wrogaeth oddi wrth bob tywysog ac arglwydd Cymreig. Gwnaed hynny ym mhresenoldeb Ottobuono, llysgennad y Pab.[1]
Roedd Llywelyn wedi cyflawni rhywbeth na chyflawnwyd gan ei dad-cu, Llywelyn ap Iorwerth, yn 1216, ac roedd sicrhau gwrogaeth oddi wrth reolwyr brodorol yn gysyniad a oedd yn elfen bwysig o system ffiwdal y cyfnod, fel y defnyddiwyd yn Lloegr. Roedd gwrogaeth yn hanfodol i reolwr wrth sefydlu ac atgyfnerthu ei statws a’i bŵer ymhlith ei bobl.
Dyma’r tro cyntaf i hawliau Tywysog Cymru gael eu cydnabod gan Frenin Lloegr. Fel rheolwr Gwynedd a chydag awdurdod teitl Tywysog Cymru, byddai tywysogion ac arglwyddi brodorol eraill Cymru yn talu gwrogaeth i Lywelyn, ac ef yn unig fyddai'n talu gwrogaeth i Frenin Lloegr. Golygai hyn eu bod yn dal eu tiroedd drwy gyflawni dyletswyddau i Lywelyn - er enghraifft, gwasanaeth milwrol a mynychu ei lys. Roedd cyfrifoldebau ynghlwm wrth y wrogaeth i Llywelyn, a gallent golli’r tiroedd os oeddent yn anheyrngar iddo.[2][3]