Dafydd Cadwaladr | |
---|---|
Ganwyd | 1752 Llangwm |
Bu farw | 9 Gorffennaf 1834 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pregethwr |
Plant | Betsi Cadwaladr |
Roedd Dafydd Cadwaladr (1752 – 9 Gorffennaf 1834) yn gynghorwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd (M.C.) ac yn fab i Cadwaladr Dafydd a'i wraig Catrin o Erw Dinmael, Llangwm, sir Conwy.[1]
Bu ei rieni yn dilyn anterliwtiau a chymhorthau gwau traddodiadol, a thra'n ifanc dysgodd Dafydd o'r Llyfr Gweddi, ac i rigymu a darllen fel yr arferai adrodd y Bardd Cwsg a Thaith y Pererin yn y cymhorthau. Gweithiodd fel gwas ffarm mewn sawl lle ac yna, yn 1771, aeth i weini at y pregethwr William Evans o Fedw Arian ger y Bala.
Priododd Judith Humphreys yn 1777 a symydodd y ddau i fyw i dyddyn Penrhiw, sef eiddo y Parch. Simon Lloyd. Ganwyd naw plentyn iddynt, a daeth dwy o'r merched yn adnabyddus yn eu dydd, sef: Elizabeth Davis, y nyrs 'Betsi Cadwaladr' (Balaclava), a Bridget a fu'n gweini gydag Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer yn Llundain ac yn Llanofer.
Dechreuodd Dafydd bregethu tua 1780 a gan y medrai'r Beibl ar dafod-leferydd, dywedasai un o'i ferched mai dan wau (h.y. 'yn gyflym iawn') y paratoai ei bregethau. Arferai gerdded pellteroedd maith i gyhoeddi'r efengyl ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys Llundain, ac fel llawer o bregethwyr Methodistaidd eraill ei ddydd, roedd yn gyfaill mawr i Thomas Charles. Dafydd Cadwaladr a ganodd farwnadau i Mr. a Mrs. Charles [2], a bu farw yntau ar 9 Gorffennaf 1834, a'i gladdu yn Llanycil [3].