Dail troed yr ebol | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Asterales |
Teulu: | Asteraceae |
Genws: | Tussilago |
Rhywogaeth: | T. farfara |
Enw deuenwol | |
Tussilago farfara L. |
Llysieuyn bychan a dyfir mewn gardd neu yn rhydd mewn gwrychoedd ydy dail troed yr ebol neu carn yr ebol (Lladin: Tussilago farfara; Saesneg: Coltsfoot). Ystyr y gair Lladin Tussilago ydy 'Lleihau pesychu' ac mae wedi cael ei ddefnyddio ers canrifoedd at anhwylderau'n ymwneud â'r ysgyfaint, anhwylderau megis asma neu beswch. O ran pryd a gwedd, maen nhw'n edrych yn debyg iawn i ddant y llew. Mae'r llysieuyn rhwng 10 cm a 30 cm o ran maint.
Cynhyrchir melysion ar gyfer dolur gwddw wedi ei wneud gan Stockley's Sweets of Oswaldtwistle gyda dail carn yr ebol - o'r enw "Coltsfoot Rock".[1]