![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | datganiad o annibynniaeth ![]() |
---|---|
Dyddiad | 4 Gorffennaf 1776 ![]() |
Achos | American revolution ![]() |
Label brodorol | United States Declaration of Independence ![]() |
Awdur | Thomas Jefferson, Timothy Matlack ![]() |
Gwlad | Teyrnas Prydain Fawr ![]() |
Iaith | Saesneg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 4 Gorffennaf 1776 ![]() |
Olynwyd gan | Articles of Confederation ![]() |
Lleoliad | Neuadd Annibyniaeth Philadelphia ![]() |
Lleoliad cyhoeddi | Thirteen Colonies ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus ![]() |
Enw brodorol | United States Declaration of Independence ![]() |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
![]() |
Datganiad a fawbysiadwyd gan y Gyngres Gyfandirol ar 4 Gorffennaf 1776 oedd Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau (Saesneg: United States Declaration of Independence). Roedd yn egluro pam yr oedd Cyngres y 13eg talaith wedi pleidleisio ar 2 Gorffennaf i'w cyhoeddi eu hunain yn annibynnol oddi wrth Prydain Fawr. Dethlir 4 Gorffennaf, diwrnod mabwysiadu'r Datganiad, fel Diwrnod Annibyniaeth yr Unol Daleithiau.
Ysgrifennwyd y Datganiad yn bennaf gan Thomas Jefferson. Y rhan enwocaf yw'r rhagarweiniad:
We hold these truths to be self-evident, that all men are created equal, that they are endowed by their Creator with certain unalienable Rights, that among these are Life, Liberty and the pursuit of Happiness.