Roedd cantref Daugleddau (amrywiadau : Deugleddau, Deugleddyf) yn un o saith gantref teyrnas Dyfed yn ne-orllewin Cymru. Mae ei diriogaeth yn rhan o Sir Benfro heddiw.
Enwir cantref Daugleddau ar ôl afon Daugleddau, am ei fod yn gorwedd rhwng y ddwy afon - Cleddy Ddu a Chleddu Wen - sy'n cyfuno i ffurfio'r afon honno. I'r de ffiniai'r cantref â chantref Penfro, i'r gorllewin â chantref Rhos a rhan fechan o gantref Pebidiog, ac i'r gogledd â chwmwd Uwch Nyfer, yng nghantref Cemais. Mae'r rhan fwyaf o'r cantref yn dir isel, amaethyddol, a groesir gan nifer o afonydd a ffrydiau.
Rhywbryd yn yr Oesoedd Canol rhanwyd y cantref yn ddau gwmwd, sef
Llanhuadain oedd canolfan eglwysig Daugleddau, a lleoliad llys cwmwd Llanhuadain a'i gastell.
Dechreuodd y cantref fel rhan o deyrnas Dyfed ac ar ôl hynny daeth yn rhan o Ddeheubarth. Syrthiodd Daugleddau i ddwylo'r Normaniaid yn gynnar. Meddianwyd rhan sylweddol o'r tir gan drefedigaeth o Ffleminiaid fel rhan o bolisi coloneiddio Cymru y brenin Harri I o Loegr. Ar adegau llwyddodd tywysogion Deheubarth i adennill rheolaeth ar rannau ohoni, e.e. rhwng 1190 ac 1193 pan gipiodd yr Arglwydd Rhys a'i feibion gastell Llanhuadain.