Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.239612°N 3.704895°W |
Cod OS | SH863726 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Jones (Ceidwadwr) |
Pentref bychan yng nghymuned Betws-yn-Rhos, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Dawn.[1][2] Fe'i lleolir ar groesffordd wledig tua 5 milltir i'r de o Fae Colwyn. Y pentrefi agosaf yw Trofarth i'r de-orllewin a Dolwen i'r gogledd-ddwyrain, tra bod Llangernyw yn gorwedd tua 3 milltir i'r de.
Ceir Mynydd Branar (324 m) ger y pentref. Llifa Afon Dulas trwy'r pentref ar ei ffordd o'r bryniau i aberu ym Môr Iwerddon ger Llanddulas.