Math | mynydd, coedwig frenhinol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig |
Gwlad | Lloegr |
Uwch y môr | 1,335 troedfedd |
Cyfesurynnau | 52.6692°N 2.5514°W |
Manylion | |
Amlygrwydd | 978 troedfedd |
Rhiant gopa | Kinder Scout |
Cadwyn fynydd | Shropshire Hills |
Bryn yn nwyrain Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Din Gwrygon (Saesneg: The Wrekin). Saif rhwng trefi Amwythig i'r gorllewin a Telford i'r dwyrain. Ei uchder yw 407m.
Ceir bryngaer Geltaidd 8 hectar ar ei gopa. Mae ar diriogaeth llwyth y Cornovii ac mae rhai archaeolegwyr wedi dadlau ei bod yn "brifddinas" i'r llwyth. Ei enw gwreiddiol oedd Uriconio neu Uriconion ym Mrythoneg, sy'n rhoi 'Gwrygon' yn Gymraeg a 'Wrekin' yn Saesneg. Credir iddi roi ei henw i ddinas Rufeinig Viroconium Cornovium, prifddinas y Cornovii yn y cyfnod Rhufeinig, tua 5 milltir i'r gorllewin (safle Wroxeter heddiw).
Mae rhai ysgolheigion yn cynnig Din Gwrygon fel lleoliad Pengwern, llys brenhinoedd cynnar teyrnas Powys, ond does dim sicrwydd am hynny (posiblrwydd arall yw safle tref Yr Amwythig heddiw).
Enw arall ar Din Gwrygon yng nghyfnod y Normaniaid oedd 'Mont Gilbert', ar ôl meudwy a aeth i fyw ar ei gopa.