Dinas Gaza

Dinas Gaza
Mathdinas, dinas fawr, Bwrdeistrefi Gwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Poblogaeth590,481 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Pennaeth llywodraethNizar Hijazi Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Torino, Dunkerque, Tel Aviv, Tabriz, Tromsø, Cascais, Barcelona, Cáceres, Saint-Denis, Communauté urbaine de Dunkerque, Osmangazi Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolIsraeli-occupied territories Edit this on Wikidata
SirLlywodraethiaeth Gaza Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Arwynebedd45 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr30 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.52°N 34.45°E Edit this on Wikidata
Cod post860 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethNizar Hijazi Edit this on Wikidata
Map

Mae Gaza (Arabeg: غَزَّةĠazzah) neu Dinas Gaza[1], yn ddinas yn Llain Gaza, Palestina, gyda phoblogaeth o 590,481 (yn 2017), sy'n golygu mai hi yw dinas fwya'r wlad. Mae yma olion pobl a fu yma ers 15g CC o leiaf, ac mae nifer o bobloedd ac ymerodraethau gwahanol wedi rheoli Gaza tros lawer o'i hanes. Mae'n rhan o Llywodraethiaeth Gaza sy'n un o 16 Llywodraethiaethau Palesteina.

Gwnaeth y Ffilistiaid yr ardal yn rhan o'u pentapolis ar ôl i'r Hen Eifftiaid ei rheoli am bron i 350 o flynyddoedd.

O dan y Rhufeiniaid profodd Gaza heddwch cymharol a ffynnodd ei phorthladd. Yn 635, hi oedd y ddinas gyntaf ym Mhalesteina i gael ei gorchfygu gan fyddin Fwslimaidd y Rashidun a'i datblygu'n gyflym i fod yn ganolfan cyfraith Islamaidd.

Wedi i'r Croesgadwyr oresgyn y wlad o 1099 ymlaen, roedd Gaza'n adfeilion. Yn y canrifoedd dilynol, profodd Gaza galedi mawr - o gyrchoedd Mongol i lifogydd a locustiaid, gan ei ostwng i statws pentref erbyn yr 16g, pan gafodd ei ymgorffori yn yr Ymerodraeth Otomanaidd. Yn ystod hanner cyntaf rheolaeth yr Otomaniaid, roedd llinach Ridwan yn rheoli Gaza ac oddi tanynt aeth y ddinas trwy oes o fasnachu ac o heddwch. Sefydlwyd bwrdeistref Gaza ym 1893.

Syrthiodd Gaza i luoedd Prydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ddod yn rhan o Balesteina Gorfodol, sef Palesteina dan Fandad. O ganlyniad i Ryfel Arabaidd-Israel 1948, gweinyddodd yr Aifft diriogaeth Llain Gaza a gwnaed sawl gwelliant yn y ddinas. Cipiwyd Gaza gan Israel yn y Rhyfel Chwe Diwrnod ym 1967, ond ym 1993, trosglwyddwyd y ddinas i Awdurdod Cenedlaethol Palestina a oedd newydd ei greu. Yn ystod y misoedd yn dilyn etholiad 2006, fe ddaeth gwrthdaro arfog rhwng carfannau gwleidyddol Palestina, sef Fatah a Hamas, gan arwain at yr olaf yn cymryd grym yn Gaza. O ganlyniad, gosododd yr Aifft ac Israel rwystr ar Llain Gaza.[2][3]

Prif weithgareddau economaidd Gaza yw diwydiannau bychan ac amaethyddiaeth. Fodd bynnag, mae'r blocâd, gan Israel, a'r gwrthdaro parhaus wedi rhoi'r economi dan bwysau difrifol.[4] Mae mwyafrif trigolion Gaza yn Fwslimiaid, er bod lleiafrif Cristnogol bach hefyd. Mae gan Gaza boblogaeth ifanc iawn, gyda thua 75% o dan 25 oed. Ar hyn o bryd mae'r ddinas yn cael ei gweinyddu gan gyngor trefol 14 aelod.

  1. The New Oxford Dictionary of English (1998), ISBN 0-19-861263-X, p. 761 "Gaza Strip /'gɑːzə/ a strip of territory in Palestine, on the SE Mediterranean coast including the town of Gaza...".
  2. Gaza Benefiting From Israel Easing Economic Blockade
  3. Gaza Border Opening Brings Little Relief
  4. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Oxfam

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy