Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Mawddwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.71944°N 3.69083°W |
Cod OS | SH857148 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Pentref yng cymuned Mawddwy yn ne-ddwyrain Gwynedd yw Dinas Mawddwy[1][2] ( ynganiad ). Saif fymryn oddi ar y ffordd A470, lle mae'r ffordd fechan i bentref Llanuwchllyn yn gadael yr A470 i ddringo dros Fwlch y Groes, y bwlch uchaf yng Nghymru sydd a ffordd fodur drosto. O'r pentref mae'r ffordd yma yn arwain i'r gogledd trwy Gwm Cywarch i gyfeiriad Aran Fawddwy. Mae'r pentref gerllaw Afon Dyfi. Daw'r enw oddi wrth hen gwmwd Mawddwy, oedd ar un adeg yn deyrnas annibynnol.