Math | cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Rhosyr |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Menai, Traeth Lafan, Traeth Coch |
Cyfesurynnau | 53.258°N 4.13°W |
Dindaethwy oedd un o ddau gwmwd cantref Rhosyr, yn nwyrain Môn.
Gorweddai cwmwd Dindaethwy rhwng Afon Menai a Thraeth Lafan i'r de a'r Traeth Coch ar Fôr Iwerddon i'r gogledd. Roedd yn cynnwys pwynt dwyreiniol yr ynys, Trwyn Du ym Mhenmon, gyferbyn ag Ynys Seiriol. Ffiniai â chwmwd Menai, ail gwmwd Rhosyr, i'r gorllewin a chwmwd Twrcelyn, cantref Cemais, i'r gogledd.
Roedd gan Dindaethwy lys cymydol yn Llan-faes, canolfan bwysicaf y cwmwd. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol, sefydlodd Llywelyn Fawr fynachlog yn Llan-faes a chladdwyd ei wraig Siwan yno. Cyn hynny roedd gan y cwmwd un o ddau glas pwysicaf yr ynys ym Mhenmon, a drowyd yn briordy yn y 12g, sef Priordy Penmon.
Ymhlith canolfannau grym diweddarach y cwmwd oedd Penmynydd, plas teuluol Tuduriaid Môn.