Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
HWB | |
Y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Mae hanes diwydiant copr Cymru yn mynd yn ôl i'r Oes Efydd. Mae olion cloddfeydd copr o'r cyfnod hwn wedi eu darganfod yng Nghwmystwyth, Mynydd Parys ar Ynys Môn ac yn arbennig ar Ben y Gogarth ger Llandudno, lle'r oedd siafftiau hyd at ddyfnder o 70 metr. Dechreuwyd mwyngloddio copr ar Ben y Gogarth tua 4000 o flynyddoedd yn ôl, a chafodd mwy na phedair milltir o dwneli ac ogofâu eu cloddio yn ystod yr Oes Efydd, pan ddefnyddiwyd cerrig igneaidd yn ogystal ag esgyrn gwartheg, defaid, geifr ac ati fel offer cloddio. Mae'n bosibl bod copr wedi cael ei allforio o Ben y Gogarth i gyfandir Ewrop, hyd yn oed, yn ystod yr Oes Efydd.
Bu'r Rhufeiniaid hefyd yn cloddio am gopr yng Nghymru - er enghraifft, ar Fynydd Parys a Phen y Gogarth. Yn ogystal, roedd nifer o fwyngloddiau copr yn Eryri - er enghraifft, Drws-y-coed a Sygun, ger Beddgelert, ac yn Nyffryn Conwy. Roedd mwyngloddiau pur gynhyrchiol ym Meirionnydd hefyd, e.e. ger Llanfachreth. Un o'r mwyngloddiau hyn oedd Glasdir, a weithiwyd rhwng 1852 a 1914, lle dyfeisiodd y perchennog Alexander Elmore ddull o dynnu copr o'r mwyn drwy ddefnyddio arnofiad olew.[1]