![]() Canolfan Hyfforddi Glowyr Aberaman, Morgannwg yn 1951 | |
Enghraifft o'r canlynol | agweddau o ardal ddaearyddol ![]() |
---|---|
Math | y diwydiant glo ![]() |
Gwlad | ![]() |
Gweithredwr | Bwrdd Glo Cenedlaethol, perchnogaeth breifat, British Coal ![]() |
Gwladwriaeth | Cymru ![]() |
![]() |
Yng Nghymru ceir dau brif faes glo, sef Maes Glo Gogledd Ddwyrain Cymru, sydd yn rhan o'r un maes a Maes Glo Sir Gaerhirfryn yn Lloegr, a Maes Glo De Cymru, maes glo mwyaf yn ysoedd Prydain, ac sy'n ymestyn o Abertawe bron i'r ffîn â Lloegr. Ffurfiwyd y meysydd glo pan oedd Cymru yn rhan o uwchgyfandir Pangea ac yn wlad gwernydd yn agos i'r cyhydedd. Mae'r glo yn haen drwchus iawn, ond mae'n cynnwys haenau o dywodfaen a siâl hefyd.
Yn ei anterth, yn 1913, cloddiwyd 57 miliwn tunnell o lo gan 232,000 o lowyr ac erbyn 1920 roedd 271,000 o ddynion yn gweithio yn y diwydiant glo.[1]