Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | clefyd y system gastroberfeddol, arwydd meddygol, feces and droppings symptom, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae sawl gair arall am ddolur rhydd gan gynnwys y bib a deiaria (Sa: Diarrhea sy'n tarddu o'r gair Groeg diarrhoia sy'n golygu "llifo drwyddo").[1]) Nodweddir yr anhwylder hwn gan ysgarthiad mwy hylifol nag arfer, sy'n llifo'n "rhydd" o'r corff. Pan fo dolur rhydd drwg iawn ar berson gall farw, a digwydd hyn gryn dipyn yn y trydyd byd gan osod yr afiechyd hwn yr ail waethaf o ran marwolaethau babanod ledled y byd. Mae'r claf yn marw o ddiffyg dŵr yn y corff ynghyd â diffyg halen, electroleit a mwynau hanfodol.