Draenen wen

Draenen wen
Blodau
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Rosales
Teulu: Rosaceae
Genws: Crataegus
Rhywogaeth: C. monogyna
Enw deuenwol
Crataegus monogyna
Jacq.
Aeron cochion y ddraenen wen
Erthygl am y goeden yw hon. Am y pentref yn ne Cymru gweler Y Ddraenen Wen.

Coeden fechan neu lwyn yw'r draenen wen (Lladin: Crataegus monogyna; Saesneg: hawthorn, quichthorn) rhwng 5 a 14 metr. Ceir hen enwau arni: "drain ysbyddaid", "ysbyddaden", "ysbyddiad", "pren bara a chaws", "draenen blannu" ac 'ogfaenwydd'. Mae'n frodorol i Gymru a gwledydd Prydain ac mae ei dosbarthiad fel coeden gynhenid yn lledaenu ar draws Ewrop mor belled ag Affganistan. Mae'n gyffredin bron ym mhobman[1].

Daeth yn fwyaf cyfarwydd pan grewyd caeau o dir agored trwy ei phlannu mewn gwrychoedd. Ei blodau ym mis Mai yw'r symbol mwyaf trawiadol o ddiwedd gwanwyn a chychwyn haf. Ceir craciau ar ffurf hirsgwar, oren-frown tywyll yn y rhisgl. Dail bach sydd ganddi: rhwng 2 a 4 cm gyda'r rhan uchaf yn wyrdd tywyllach na rhan isaf y ddeilen.

Ym Mai a Mehefin mae hi'n blodeuo yng ngwledydd Prydain. Mae'r blodyn oddeutu 1 cm a thuag 1 cm ydy'r aeron hefyd, pan dyfant yn yr hydref; ceir un garreg, neu hedyn, y tu fewn. Gellir bwyta'r ffrwyth drwy ei droi'n jam, jeli neu'n win cartref.

Coeden gollddail yw hi, tua 21 troedfedd o uchder ar dir da, yn amlwg iawn yn ei blodau ym mis Mai, ac eto yn ei ffrwythau ym mis Hydref, pan fo ar dân gan aeron coch. Yn aml, ar dir agored nid yw ond llwyn, oherwydd pori gan anifeiliaid, pridd gwael, a gwyntoedd cryfion. Yn y cyflwr hwnnw, mae'n tyfu'n glos a thrwchus, a'r pigau drain hirion, yn ei gwneud yn wrych mor effeithiol. Credir fod rhai ohonynt yn tyfu i wth o oedran a bod The Hethel Old Thorn yn ne-ddwyrain Lloegr oddeutu 700 o flynyddoedd oed.[2]

  1. A Field Guide to the Trees of Northern Europe gan A. Mitchell; Collins (1974).
  2. The Wildlife Trusts, UK. Adalwyd 29 Hydref 2009

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy