Enghraifft o'r canlynol | Grŵp ethnogrefyddol |
---|---|
Mamiaith | Arabeg, druze arabic |
Poblogaeth | 1,500,000 |
Rhan o | Levantines |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp ethnogrefyddol[1] sy'n byw yn Libanus, Israel a Syria yw'r Drwsiaid (ffurf unigol: Drŵs)[2] neu'r Drusiaid (ffurf unigol: Drusiad).[3] Maent yn dilyn y grefydd Drŵs sy'n undduwiol ac yn seiliedig ar Ismailïaeth gyda dylanwadau Iddewig, Cristnogol, Gnostigaidd, neo-Platonaidd, ac Iranaidd. Datblygodd y ddysgeidiaeth grefyddol gyfrinachgar hon yng Nghairo ym 1017 gan Ḥamzah ibn ʿAlī.[4]