Math | cantref, gwlad ar un adeg, teyrnas, vassal state |
---|---|
Prifddinas | Cricieth |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.964°N 4.224°W |
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959 Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies) | |
Un o hen gantrefi Cymru oedd Dunoding. Roedd yn gorwedd ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Bae Ceredigion yng ngogledd-orllewin Cymru ac yn rhan o deyrnas Gwynedd. Roedd gwastadeddau Y Traeth Mawr yn ei rhannu'n ddau gwmwd, sef Eifionydd ac Ardudwy. Ar ei ffin ogledd-orllewinol ceir cantref Llŷn, yn y gogledd ceir cantrefi Arfon a chwmwd Nant Conwy yn Arllechwedd. Yn y dwyrain ffiniai â Phenllyn ac yn y de â Meirionnydd.
Mae Dunoding yn cael ei enw ar ôl Dunod (Dunawd), un o feibion Cunedda. Daliai disgynyddion Dunod eu gafael arno fel uned led-annibynnol hyd at y 10g, ac mae rhai hanesyddion yn dadlau fod Dunoding yn frenhiniaeth annibynnol yn yr Oesoedd Canol cynnar.
Cantref bur arw a chreigiog oedd Dunoding. Mae cwmwd Eifionydd, yn y gogledd, yn gorwedd rhwng Afon Erch a'r Traeth Mawr gyda bryniau de Eryri yn gefn iddo. Dolbenmaen oedd prif lys y cwmwd yn ôl pob tebyg. I'r de o'r Traeth Mawr ceid cwmwd Ardudwy a'r safleoedd milwrol Harlech a Mur-y-Castell. Cantref cymharol dlawd oedd hi ac ni cheir canolfannau eglwysig o bwys yn ei ffiniau, er bod ganddi nifer o eglwysi cynnar.