Mae'r erthygl yma yn ymdrin â'r sir oedd mewn bodolaeth rhwng 1976 a 1996. Am deyrnas Dyfed yn yr Oesoedd Canol cynnar, gweler Teyrnas Dyfed. Gweler hefyd Dyfed (gwahaniaethu).
Daeth Dyfed yn sir yn sgil ad-drefnu llywodraeth leol yn 1976, ac felly yn uned llywodraeth leol, yng ngorllewin Cymru, rhwng 1976 a 1996. Roedd yn cynnwys tair o'r hen siroedd: Sir Benfro, Sir Ceredigion a Sir Gaerfyrddin ac fe'i rhennid yn chwe dosbarth, sef Ceredigion, Caerfyrddin, Dinefwr, Llanelli, Preseli Penfro a De Sir Benfro. Pencadlys y cyngor sir oedd Caerfyrddin.
Yn 1996, dan ad-drefniant arall, adferwyd y siroedd blaenorol a pheidiwyd a defnyddio'r enw Dyfed mewn llywodraeth leol.